Label recordio, cynhyrchu a chyhoeddi o Gymru
A recording, production and publishing label from Wales
12.5.2016
Eleni bydd tîm pel droed Cymru yn chwarae yn ei twrnament mawr cyntaf ers
1958 ac mae Iestyn Jones, o Ganllwyd ger Dolgellau, am nodi'r achlysur gyda
chân newydd i'w floeddio gan gefnogwyr Cymru ar draws Ewrop. Mae Iestyn,
canwr gyda'r band Rebownder, wedi casglu ciwed o sêr Cymru at eu gilydd o
dan yr enw "Y Sybs" i recordio y sengl 'Mint Sôs' ar ôl gwylio Cymru'n
ennill ei lle yn y gystadleuaeth:
"Roeddwn yn byw yng Nghaerdydd ar y pryd ac roedd yn gyffrous iawn i
bêl-droed Cymru .... Mi nes i ddod a cherddorion lleol at eu gilydd i
recordio'r sengl cyn symud adref i ogledd Cymru" meddai Iestyn.
"Roedd 'Fat Les' a'i can 'Vindaloo' yn boblogaidd iawn yn Lloegr. Amcan
'Mint Sôs' yw cael llwyddiant tebyg yng Nghymru". "...Rydym wedi sgwennu fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg ac mae hyd yn oed
fersiwn offerynnol i ganu i!" ychwanegodd Iestyn.
Mae 'Mint Sôs' gan 'Y Sybs' yn cynnwys cyfraniadau ecsglwsif gan John Pierce
Jones fel y cymeriad chwedlonol Arthur Picton o 'C'mon Midffild', gan y
sylwebydd pêl-droed a chyflwynydd uchel ei barch John Hardy, a gan y
talentau unigryw David R Edwards a'r Welsh Whisperer. Mae'r sengl ar gael yn
yr holl brif siopau digidol arlein ag ar CD yn y siopau stryd fawr Cymraeg.
12.5.2016
Iestyn Jones, singer with Welsh band Rebownder has brought together a
galaxy of Welsh stars under the name "Y Sybs" to record the track 'Mint Sôs'
after watching the Wales football team qualify for the European 2016
football championship last year:
"I was living in Cardiff at the time and was very excited for Welsh
football.... I teamed-up with local musicians and recorded the track before
moving home to North Wales ," says Iestyn.
"The English outfit 'Fat Les' had a big hit with 'Vindaloo' so I guess 'Mint
Sôs' is our Welsh equivalent". "...We've written it in Welsh and English and there's even an instrumental
version to singalong to!". Iestyn adds.
'Mint Sôs' by 'Y Sybs' features exclusive contributions by John Pierce Jones
as the legendary Arthur Picton character from 'C'mon Midffild', by football
commentator and presenter John Hardy as well as by Welsh musical wonders
David R Edwards and the Welsh Whisperer. The single is available in all main
online stores and the CD available at most Welsh language high street shops.
Holiadur Iestyn Jones prif ganwr Y Sybs
1.
Hoff liw?