Label recordio, cynhyrchu a chyhoeddi o Gymru
A recording, production and publishing label from Wales
Yn dilyn llwyddiant ei albym dwethaf a chaneuon fel 'Loris Mansel Davies' a 'Ni'n Beilo Nawr' mae'r dyn o Gwmfelin Mynach yn ôl gyda albwm10 trac newydd sbon llawn canu gwlad, gwerin a hiwmor unigryw. Mae'r crwner o Sir Gâr ar dân am glap a chan yn fwy nac erioed ac unwaith eto mae rhai o gerddorion gorau canu gwlad Cymru ac Iwerddon wedi dod ynghyd i recordio ei albym newydd 'Dyn y Diesel Coch'.
Mi fydd y Welsh Whisperer yn brysur yn gigio yn y misoedd sydd i ddod fel mae wedi bod dros Gymru ben baladr drwy gydol y flwyddyn, o'r Sioe Frenhinol i'r Sesiwn Fawr, o Sioe Gorsgoch i Sgubor Pencarreg. Hyn yn ogystal ag ymddangosiadau disglair ar deledu a radio.
Dyma'r drydedd albym i'r Welsh Whisperer ei rhyddhau, a'r ail ar y cyd rhwng y labeli Tarw Du a Fflach. Mae'r albym ar gael ar CD yn eich siopau lleol nawr ag arlein o'r holl siopau digidol ar draws y byd. Cewch hefyd wybod mwy am y Welsh Whisperer, clywed ei ganeuon a gwylio ei fideos drwy fynd i welshwhisperer.cymru
Mi fydd yr albym ar gael ar CD yn yr holl siopau Cymraeg o Dachwedd 15 ymlaen ag yn ddigidol o'r holl siopau arlein o Ionawr 15, 2018 ymlaen. Rhestr llawn o sdocwyr y cd ar y stryd fawr yma - welshwhisperer.cymru/shop
Linc ar gyfer lluniau safon uchel i'r wasg a'r cyfryngau yma https://www.dropbox.com
Release date - 14.11.2017
Following the success of his previous album and songs such as 'Loris Mansel Davies' and 'Ni'n Beilo Nawr', the man from Cwmfelin Mynach is back with a brand new 10 track album featuring a unique blend of country, folk and fresh humour. The Carmarthenshire crooner is back on another horse with fresh legs and some of the best musicians from Wales and Ireland have once again come together to help record his new album 'Dyn y Diesel Coch' (Red Diesel Man).
The Welsh Whisperer will be busy gigging in the coming months as he has been all over Wales and beyond throughout the year, from the Royal Welsh Show to the London Welsh Centre, and in pubs, clubs, halls and farm barns all over the land. This alongside glittering appearances on television and radio.
This is the third album released by the Welsh Whisperer and the second to be co-produed and co-released by the Tarw Du and Fflach labels. The album is available to buy on CD at your local Welsh shop and online from all digital shops around the world. You can also find out more about the Welsh Whisperer, hear his songs and watch his videos by visiting welshwhisperer.cymru
The album will be available on CD from all Welsh language shops from November 14th 2017 and from January 15th 2018 for digital release. Full list of high street stockists of cd here - https://www.welshwhisperer.cymru/shop (the underline shouldnt be in this paragraph here but i cant get it off!)
Link to high quality photos here:https://www.dropbox.com