Croeso nol y Welsh Whisperer

Ar ôl byw'r bywyd moethus yn dilyn cyfnod aur sîn bop Cymru y 70au a'r 80au, mae'r dyn (heb oedran) wedi dychwelyd o'i lety deluxe ym Menidorm ac yn barod i roi Cymru oll ar dân drwy glap a chân.

Mae'r albwm yma, 'Plannu Hedyn Cariad', yn ffrwyth cynhaeaf hir a chreulon. Sonnir yma am faterion hollol gyfoes megis merched cefn gwlad, cig, cwrw, bara brith ac wrth gwrs, balchder mewn beudai glan.

Dyma ddeg trac sydd yn eich arwain ar daith chwrligwgaidd Geltaidd i bob cornel a chopa o'n hoff wlad yn y byd, Cymru fach.

Gyda dylanwad amlwg rhai o sêr pop gorau Cymru, ceir yma frand unigryw o gerddoriaeth pop / gwerin a ffermjazz. Diolch am wrando.

Welcome back the Welsh Whisperer

Following the dreamy decades that were the 70s and 80s within the Welsh pop scene, this ageless Celtic lord has returned from the exile of his Benidorm pleasure lodge and is ready to set Wales alight to the sound of raw and exclusive Welsh folk pop. Humbly describing himself as ‘the most unknown Welsh country folk pop legend of all time’ this is his first known album to be officially released.

The album titled ‘Plannu Hedyn Cariad’ (Planting a seed of love) is the fruit of a long and cruel harvest.  This classic collection of Welsh and English language records tackle the issues that are on everyone’s lips: country girls, meat, beer, bara brith and of course, pride in a well maintained milking parlour.

Prynwch yn / Buy at:

  • amazon
  • itunes
  • emusic
  • deezer

Holi sydyn i'r Welsh Whisperer:
The Welsh Whisperer
1. Hoff liw?
Coch!

2. Hoff fwyd?
Bara brith (os ydy'r rhesins yn dod o Sir Gâr)

3. Hoff 5 ddinas?
Tyddewi, Caerdydd, Bangor, Belfast ac Amlwch.

4. Hoff pump le yng Nghymru?
Cwmfelin Mynach, Caernarfon, Caerfyrddin ac Ynys Môn (cyfan)

5. Unrhyw farn ar wleidyddiaeth/stad y byd?
Dy gredyd fel jeli a dy bensiwn yn rhacs, dim byd yn y post ond bil garej a tacs. Dos i ganu. Mae Cymru wedi sychu mewn mannau. Anialwch marwaidd o ddinasyddion gwanhaëdig. (Gwelwch geiriadur) Oes 'na arwr yn y tir?

6. Be di'r pella ti'n gallu pwyri?
Dros fochyn tewa'r plwyf

7. Bisgedi neu cacen?
Beth bynnag yw'r acen, ga'i baned a chacen

8. Hoff siop/au?
Y siop siarad
Y siop siafins
Siop y Pentan, Caerfyrddin

9. Be di be?
Be?

10. Isio deud rwbeth arall am y Welsh Whisperer?
Rwyf ar gael ar gyfer holl achlysuron y Cymry boed Bar Mitzvah neu parti gwyl St George

11. Os ydi pobol yn dod o Chimpanzees pam fod yne dal Chimpanzees?
I rhoi hwn yng nghyd destun pobol Cymru; Dywed rhai mai dynion ydym ni, dywed eraill ein bod ymhlith y moch, ond cofiwch, o wlad y bacwn y mae pob un ohonom yn tarddu. Ie cofiwch hwnna

12. Unrhyw sylw arall am unrhywbeth dan haul?
Pryd wnaeth pobol stopio yfed cwrw medd? A pam mae pobol bellach yn yfed Carlsberg top a VK Tropical?


Os am heirio y Welsh Whisperer ar gyfer bron unrhyw achlysur plis cysylltwch a post@tarwdu.com neu yn uniongyrchol drwy welshwhisperer@live.com.

CD hefyd ar gael yn eich siop leol Gymraeg

The Welsh Whisperer | Poket Trez | Swci | Shop Tarw du | The Welsh Surname Shop | MC Mabon | Sadwrn.com | Daily Wales | Penderyn
Soundcloud | C2 BBC Radio Cymru | BBC Radio Wales | Welsh Black Cattle Society | Brains | Americymru | S4C | Cymru | Wales
Wales Online | Culture Colony | Golwg360