Label recordio, cynhyrchu a chyhoeddi o Gymru
A recording, production and publishing label from Wales
17.7.2020
Sengl Newydd WELSH WHISPERER ‘Ni’n Beilo Nawr (Remix Martyn Kinnear)’. Allan Nawr Ar Label Tarw DU & Fflach
Wrth i’r Welsh Whisperer dathlu pum mlynedd ers rhyddhau’r albwm llwyddiannus ‘Y Dyn o Gwmfelin Mynach’ mae wedi cydweithio gyda’r DJ Martyn Kinnear o Sir Gâri greu fersiwn go wahanol o'i gan enwog 'Ni'n Beilo Nawr' sef ‘Ni’n Beilo Nawr (Remix Martyn Kinnear)’.
Oherwydd y cyfnod clo, mae bwlch mawr ym mywyd y Welsh Whisperer sydd fel arfer yn teithio Cymru a pherfformio o flaen torfeydd mawr y sioeau a’r dawnsfeydd amaethyddol. Mae’r ‘remix’ yma yn llenwi’r bwlch hwnnw a bydd yn siŵr o gael ei chlywed yn y cab, y tryc a’r car ar draws y wlad.
Gan droedio llwybr gwahanol gyda sŵn y fersiwn yma o un o’i ganeuon fwyaf poblogaidd, mae ‘Ni’n Beilo Nawr (remix Martyn Kinnear)’ wedi ei chreu i droi pennau a chwythu sanau!
Mae’r trac ar gael yn ddigidol ac i’w chwarae nawr
℗Tarw Du 2020 & Fflach 2020
© Tarw Du & Fflach 2020
© Cyhoeddiadau Tarw Du & Cyhoeddiadau Mwldan