Label recordio, cynhyrchu a chyhoeddi o Gymru
A recording, production and publishing label from Wales
7.12.2018
Pleser gan Tarw Du yw cyhoeddi albym gyntaf y ddeuawd hynod HyWelsh, sef Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer, sydd yn dwyn y teitl hunan esboniadol 'Y Goreuon Hyd yn Hyn'. Mae hon yn gasgliad o bymtheg can y mae Hywelsh wedi ei recordio ar gyfer y sianel ar-lein boblogaidd 'Hansh' rhwng 2016 a 2018, gyda caneuon fel Quiche Lorraine, Arweinyddiaeth Cryf, Tafodiaith ac A470 wedi eu gwylio cannoedd o filoedd o weithiau ar-lein ac wedi helpu Hansh i gyrraedd dros filiwn o sesiynau gwylio ar y platfform hyd yma.
Mae HyWelsh hefyd wedi bod yn perfformio'n fyw ers ambell flwyddyn. Mae'r albym ddigidol ar gael i'w brynu a'i ffrydio o'r holl brif blatfformau arlein.
(Peth iaith anweddus – awgrymir goruchwyliaeth gan rieni)
Tarw Du 2018 (o dan drwydded i Antena)
© (clawr) – Tarw Du 2018
Pob can ©Walton/Pitts
Label – Tarw Du
Rhif catalog: Tarw Du 12
07.12.2018
First official release by the remarkable duet, HyWelsh, (Hywel Pitts and Welsh Whisperer), with the self explanatory title 'Y Goreuon Hyd yn Hyn' ('The best songs so far').