Label recordio, cynhyrchu a chyhoeddi o Gymru
A recording, production and publishing label from Wales
Awst 3ydd 2015
Ar ôl i yn llythrennol neb ofyn am y peth, mae'r digrifwr Elidir Jones a'r label Tarw Du wedi ymuno o'r diwedd ar gyfer undod unigryw o gomedi a cherddoriaeth. Yn elixir, y record cynta o'i fath yn y Gymraeg o bosib (er peidiwch cymryd ein gair ni), fe fyddwch yn cael eich tywys ar daith blith-draphlith drwy feddwl Elidir wrth iddo fwydro'n hirwyntog am bynciau mor eang â'r Beibl, ffilmiau Indiana Jones a thoiledau cyhoeddus Abertawe.
A gyda hud a lledrith cerddorol wedi ei sbrinclo'n hael dros bob un trac, mae'n record sy'n siŵr o godi gwên. Neu, rhowch o fel hyn; mae'r albym yn para bron awr felly os newch chi ei roi mlaen yn eich car ar ben pella'r A470, ar ôl tua tri gwrandawiad a hanner, mi fyddwch wedi cyrraedd pen arall y ffordd enwog 'pan Gymru' (yn dibynnu yn union ar lle yde chi'n mynd wrth gwrs). Os liciwch chi, meddyliwch amdano fel rhaglen hir Radio 4 yn y Gymraeg. Ond heb Stephen Fry yn troi fynu bob pum munud.
Dywedodd Elidir:
"Byddwch yn rhagorol i'ch gilydd. A phartïwch ymlaen, dŵds"
A hefyd:
"I fod yn berffaith onest, dwi isio cropian i mewn i dwll yn y llawr ac aros yna"
Gellir hefyd clywed a gweld doniau eraill Elidir fel aelod o'r band Plant Duw , fel cyflwynydd ag adolygydd gemau fidio ar ei safle we Fideo Wyth yn ogystal a gallu darllen ei waith yn ei nofel newydd Y Porthwll fydd allan o fis Medi 2015 ymlaen - llyfr am ddau fersiwn o'r un cymeriad sy'n bodoli mewn dau ddeimensiwn gwahanol"
03.08.2015
Elidir Jones presents 'elixir' - a spoken word observational album on various subjects such as the bible, Indiana Jones films and Swansea public toilets.
Questionnair:
1. Hoff liw?
Cwestiwn da a gwreiddiol. Piws oedd fy ateb stoc pan yn blentyn ffôl, oherwydd mai Donatello efo'i fasg piws oedd y Ninja Turtle gora, yn ddi-gwestiwn. Ond wedi tyfu fyny,
dwi wedi dechra sylweddoli na ddyliwn i seilio fy holl fywyd ar wersi'r Teenage Mutant Ninja Turtles.
Mae du yn dda. Ond ydi o'n liw, ta ydi o'n brinder o liw? Un i'r athronwyr, dwi'n meddwl.
O, bygro hwn. Coch.
2. Hoff fwyd?
Pizza o'r siop enwog ym Mangor Ucha, wedi ei wneud gan y ddynes sydd wedi yn gweithio yna am ddegawdau.
Ella bod ei dwylo'n edrych fel y dylsa nhw fod yn berchen i gorff marw, ond mae hi'n gwybod yn iawn be mae'n ei wneud. Reit hyblyg o ran
toppings, ond allwch chi'm mynd o'i le efo salami ac india-corn.
3. Hoff 5 dinas?
1. Bangor
2. Caerdydd
3. Manceini
4. Rotorua, Seland Newydd
5. Mos Eisley, Tatooine
Dim Abertawe.
4. Hoff bump le yng Nghymru?
Wel, mae Bangor a Chaerdydd yn y bag. Wedyn...
3. Nant Gwynant
4. Rhuthun
5. Traethau Borth-y-Gest
Dim Abertawe.
5. Unrhyw farn ar wleidyddiaeth/stad y byd?
Gormod.
Os oes 'na etholiad yn dod, a rywun 'da chi wir yn ei licio ar y papur pleidleisio, ewch amdani. Ond peidiwch a phleidleisio dros rywun jyst achos bod nhw fymryn llai ffiaidd na phawb arall.
Dim democratiaeth ydi hynny. Yn hytrach, gwnewch i fyny am y peth drwy drio wneud y byd o'ch cwmpas chi'n well tan yr etholiad nesa,
mewn ffyrdd bach neu fawr. Wnewch chi fwy o waith da na unrhyw wleidydd.
Ond i gael unrhyw newid go-iawn, mae angen ryw fath o chwyldro. A wedyn allwn ni uno fel un blaned a chrwydro'r gofod efo'n gilydd.
#comedi
6. Be di'r pella ti'n gallu pwyri?
Ddim yn bell iawn o gwbwl, mae gen i ofn. Ar ôl cwpwl o fodfeddi, mae o'n troi i mewn i niwl mân.
7. Bisgedi neu cacen?
Bisgedi. Dim cwestiwn. Dim byd yn erbyn pobol sy'n meddwl yn wahanol... ond 'da chi'n beryglus o nyts.
Hob-nobs, gyda llaw, ydi brenin y bisgedi.
A brenin yr Hob-nobs ydi'r Hob-nob siocled.
8. Hoff siop/au?
Unrhyw siop recordiau sy'n dal i fod ar agor. Siop pizzas Bangor Ucha (gweler uchod). Siop gemau bwrdd Rules Of Play yng Nghaerdydd. Pob siop yn y Northern Quarter, Manceinion.
Y siop 'na yn Mr Benn.
9. Be di be?
Lle di lle?
10. Isio deud rwbeth arall am Elidir Jones?
I fod yn berffaith onest, dwi isio cropian i mewn i dwll yn y llawr ac aros yna.
11. Os ydi pobol yn dod o Chimpanzees pam fod yne dal Chimpanzees?
Os ydi Efrog Newydd yn bodoli, pam bod ‘na bobol yn dal i fod ym Mharis?
12. Unrhyw sylw arall am unrhywbeth dan haul?
Dim ond plygs reit sinigaidd, mae gen i ofn.
Gwrandewch ar fy mand, Plant Duw.
Ewch i fy ngwefan, fideowyth.com.
Darllenwch fy nofel, Y Porthwll, os ydi o allan pan ddarllenwch chi hwn. Bosib iawn bod o ddim.
Byddwch yn rhagorol i'ch gilydd. A phartïwch ymlaen, dŵds.